Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Gweithredu diwygiadau addysg

Defnyddiwch y ffurflen hon i gofnodi eich barn. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ateb yr holl gwestiynau sy'n berthnasol i chi. Pan fyddwch wedi gorffen, anfonwch y ffurflen mewn e-bost at SeneddPlant@senedd.cymru

Mae croeso i chi gyflwyno cymaint o ymatebion ag y dymunwch, mor rheolaidd ag y dymunwch. Byddant i gyd yn cyfrannu at benderfyniadau'r Pwyllgor ynghylch sut i ganolbwyntio ei waith craffu.

Rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o bobl â phosibl. Os hoffech gyflwyno eich sylwadau ond nad ydych eisiau/nad ydych yn gallu cwblhau'r ffurflen hon, ffoniwch glercod y Pwyllgor, a all drefnu ffordd wahanol ichi fynegi eich barn

0300 200 6565

SeneddPlant@senedd.cymru

 

Gwybodaeth amdanoch chi

1. Enw:

 

 

2. Cyfeiriad e-bost:

 

 

3. Ym mha iaith/ieithoedd fyddwch chi'n llenwi’r arolwg hwn?

I gyflwyno ymateb dwyieithog, cyflwynwch fersiwn Cymraeg a fersiwn Saesneg o'r arolwg.

Rwy'n cyflwyno yn Gymraeg yn unig.

Rwy'n cyflwyno yn Saesneg yn unig.

Rwy'n cyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

4. A hoffech chi gael eich ychwanegu at restr cysylltiadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn cael diweddariadau am ein gwaith?

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy e-bostio SeneddPlant@senedd.cymru.

Hoffwn

Dim diolch

 

5. Ym mha rinwedd yr ydych chi'n ymateb i'r ymgynghoriad hwn?

Yn eich rhinwedd eich hun (ewch i gwestiwn 6)

Yn rhinwedd eich swydd (ewch i gwestiwn 9)

 

Yn eich rhinwedd eich hun

Os ydych yn cyflwyno ymateb ar sail bersonol, gofynnwn i chi ddarparu eich enw a'ch cod post.

Cyn derbyn deunydd gan rai sy'n 13 oed neu'n iau, mae angen inni gael rhiant neu warcheidwad y person ifanc i’w awdurdodi. Dylid rhoi’r awdurdod hwn ar ffurf e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc at
SeneddChildren@senedd.cymru.

Os ydych yn cyflwyno ymateb ar sail bersonol, bydd y wybodaeth amdanoch yn ddienw; hynny yw, ni fydd yn cynnwys eich enw na'ch manylion cyswllt. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, a dim ond mewn ymateb i gais gennych chi, efallai y byddwn yn cytuno na fydd eich deunydd yn ddienw. Bydd angen i chi gysylltu â ni ar
pwyllgorau@senedd.cymru os ydych yn dymuno gwneud cais o'r fath.

 

6. Beth yw eich cod post llawn?

 

 

7. Ydych chi o dan 13 oed?

Rwyf o dan 13 oed

Rwy'n 13 oed neu'n hŷn

 

8. Dewiswch un o'r opsiynau a ganlyn i gadarnhau a fyddai'n well gennych chi na fydd eich enw yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth.

Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau pobl o dan 18 oed.

Rwy'n 18 oed neu'n hŷn ac rwy'n fodlon ichi gyhoeddi fy enw ochr yn ochr â'm tystiolaeth

Rwy'n 18 oed neu'n hŷn a byddai'n well gennyf pe na baech yn cyhoeddi fy enw ochr yn ochr â'm tystiolaeth

Rydw i o dan 18 oed

 

 

Yn rhinwedd eich swydd

Os ydych yn cyflwyno ymateb ar ran sefydliad, rhowch eich manylion yma

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, byddwn yn cyhoeddi enw'r sefydliad ond ni fyddwn yn cyhoeddi eich enw chi na'ch manylion cyswllt.

Os ydych yn ymateb ar sail broffesiynol arall, byddwn yn cyhoeddi teitl eich swydd/rôl, os yw'n berthnasol. At hynny, byddwn yn cyhoeddi eich enw os byddwch yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cyhoeddi.

9. Eich rôl:

 

 

10. A ydych yn ymateb ar ran sefydliad?

Ydw (ewch i gwestiwn 11)

Nac ydw (ewch i gwestiwn 12)

 

11. Enw'r sefydliad:

 

 

12. Dewiswch un o'r opsiynau a ganlyn i gadarnhau a fyddai'n well gennych chi na fydd eich enw yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth.

Rwy'n fodlon i chi gyhoeddi fy enw ochr yn ochr â'm tystiolaeth

Byddai'n well gennyf pe na baech yn cyhoeddi fy enw ochr yn ochr â'm tystiolaeth


Eich safbwyntiau

Byddwn yn ystyried yn rheolaidd y safbwyntiau a gawn yn ystod y Chweched Senedd.

 

13. Nodwch eich barn sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r cylchoedd gorchwyl canlynol:

·         Gweithredu Cwricwlwm i Gymru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

·         Lefel cysondeb a thegwch y cyfleoedd dysgu i ddisgyblion ledled Cymru, o ystyried yr hyblygrwydd i ysgolion ddatblygu eu cwricwla eu hunain o fewn fframwaith cenedlaethol.

·         Y diwygiadau cysylltiedig i gymwysterau i gyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru.

·         Gweithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a throsglwyddo dysgwyr yn effeithiol o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol.

·         Cymhwyso'r diffiniad o ADY – o'i gymharu â’r diffiniad ar hyn o bryd ar gyfer AAA – ac a oes unrhyw achos o 'godi'r bar' o ran pennu cymhwysedd ar gyfer darpariaeth.

·         Yr hyn y mae’r lleoliadau dysgu proffesiynol a chymorth eraill yn derbyn er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY.

·         Ffactorau eraill a allai, o bosibl, effeithio ar weithrediad y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY, er enghraifft lefelau cyllid a’r hyn a gododd yn sgil y pandemig.

·         Yr heriau a’r cyfleoedd penodol sy’n wynebu gwahanol fathau o ysgolion mewn amgylchiadau amrywiol (e.e. cyfrwng iaith, demograffeg ac ardal) o ran gweithredu diwygio’r cwricwlwm ac ADY.

 

Ysgrifennwch eich safbwyntiau yma…

 

 

Gwybodaeth am drydydd partïon

14. Dewiswch un o'r opsiynau a ganlyn i gadarnhau a ydych wedi cael cytundeb gan unrhyw drydydd partïon* y cyfeirir atyn nhw yn eich tystiolaeth y gallwch chi rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y gellir ei chyhoeddi.

* Mae trydydd parti yn golygu unrhyw berson – ac eithrio chi eich hun – y gellir ei adnabod yn y dystiolaeth yr ydych yn ei rhannu gyda ni.

Rwy’n cadarnhau bod unrhyw drydydd parti y cyfeiriais ato yn fy nhystiolaeth wedi cytuno y galla i rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i’w adnabod, a’u bod yn deall y gellir ei chyhoeddi.

Nid oes gen i gytundeb un neu fwy o'r trydydd partïon y cyfeiriais atyn nhw yn fy nhystiolaeth.

Nid wyf wedi cyfeirio at unrhyw drydydd partïon yn fy nhystiolaeth.